Cwrdd â'r tîm
Jamie Andrews
Prif Swyddog Gweithredol
Mae gan Jamie gefndir mewn teithio carbon isel fel cydsylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Loco2, cwmni technoleg sy'n anelu at hwyluso archebu trenau yn Ewrop. Adeiladodd y cwmni gyda'i chwaer Kate dros ddegawd, gan ei werthu yn y pen draw i weithredwr rheilffordd cenedlaethol Ffrainc SNCF yn 2017.
Symudodd Jamie i Machynlleth yn 2019, ac ymunodd â bwrdd TripI fel gwirfoddolwr yn 2021, cyn cael ei benodi'n Brif Weithredwr TrydaNi yn Ebrill 2024. Pan nad yw'n gweithio ar TrydaNi, gallwch ei weld yn chwarae pêl-droed mewn gêm a drefnwyd drwy un arall o'i orchwylion, Squaddle, neu'n cael ei feic wedi'i drwsio yng nghweithdy beiciau cymunedol Machynlleth, Seiclo Dyfi, lle mae'n gyfarwyddwr gwirfoddol.
Andrew Capel
Rheolwr Gweithrediadau
Mae gan Andrew gefndir fel datblygwr meddalwedd a datblygu clybiau ceir cymunedol.
Yn un o sylfaenwyr Clwb Ceir Llanidloes, a lansiwyd yn 2007 ac a ddaeth i'w adnabod fel TripI yn 2021, daeth yn un o 4 cyfarwyddwyr y clwb, gan reoli'r gweithrediadau dyddiol nes iddo uno â TrydaNi yn 2024.
Symudodd Andrew i Lanidloes yn 2000, ac yna i Benrhyncoch yn 2023. Pan nad yw'n gweithio, mae'n mwynhau addysgu a dysgu tai chi, mynd am sbin ar ei feic trydan, a chanu mewn côr Cymraeg. Mae hefyd yn drysorydd yn ei neuadd bentref lleol.
Cyrene Dominguez
Rheolwr Gwasanaethau Aelodau
Mae gan Cyrene bron i ddegawd o brofiad mewn solar cymunedol, bateri, a gosod pwyntiau gwefru. Enillodd y profiad hwn tra'n gweithio gyda chwmni budd cymunedol ei thad, Gwent Energy CIC. Mae'n gyfforddus iawn yn gweithio ar doeon, gan gario offer a paneli solar pan fo angen!
Bu Cyrene'n gweithio gyda TrydaNi ers ei gychwyniad yn 2019, gan helpu i ddatblygu'r prosiect i'r hyn ydyw heddiw. Gan ei bod hi wedi gweithio gyda chymunedau incwm isel droeon, mae'n caru'r cysyniad o rannu ceir, ac yn wir yn gweld y manteision o wneud.
Yn ei hamser hamdden mae'n berson hynod greadigol, gan gynhyrchu lluniau llaw digidol ar gyfer elusennau fel Gwent Beekeepers CIO a Friends of The Earth. Mae'n nythwr gwenyn angerddol, garddwr ecogyfeillgar, ac roedd yn Gadeirydd Bee Friendly Sir Fynwy am flynyddoedd lawer, gan godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd ein peillwyr. Mae hi'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr, a symudodd o Seattle, Washington, a'i thri ffured.