TrydaNi logo

Amdanom ni

Cymraeg
TrydaNi logo

Amdanom ni

Cymraeg
TrydaNi logo

Ein perwyl

1 July 2025

Perwyl TrydaNi yw cyflwyno rhannu ceir di-allyriadau ledled Cymru – mewn ffordd sy’n rhad, yn gyfleus ac o fudd i gymunedau lleol.

***

Mae’r byd yn newid yn gyflym.

Yn 2010, fe werthwyd 261 o geir trydan yn y DU. Yn 2023, fe werthwyd 455,000. Bymtheng mlynedd yn ôl, nid oedd neb wedi clywed sôn am Elon Musk na Tesla. Nawr mae hi bron yn amhosibl i ni beidio â chlywed sôn am y ddrama ddiweddaraf.

Mae yna tua 100,000 o geir di-yrwyr ar y ffyrdd yn yr Unol Daleithiau heddiw, ac mae Uber yn dweud ei fod yn barod i gyflwyno tacsis di-yrwyr yn y DU erbyn 2027.

Yn gyfochrog â chyflymder syfrdanol y newid technolegol yn yr oes bresennol, rydym ni’n byw hefyd mewn oes o gyfalafiaeth ddilyffethair arni. Gyda’i gilydd, mae Tesla ac Uber wedi codi un biliwn ar hugain o ddoleri, gan addo ad-daliadau i fuddsoddwyr o swm lawer gwaith yn fwy na hynny.

Yn TrydaNi rydym ni’n frwdfrydig ynglŷn ag addewid cerbydau trydan a’r ffaith fod yr integreiddio ag apiau ffonau symudol yn golygu y gall pawb rannu yn y buddion – gall ein haelodau ganfod, archebu a datgloi ceir, y cyfan drwy gyfrwng ap ar ffôn clyfar.

Ond rydym ni’n pryderu hefyd ynglŷn â’r model economaidd sy’n cael ei ddefnyddio i ddod â’r dechnoleg hon i’n bywydau ni. Rydym ni’n dymuno dangos y gellir gwneud pethau yn wahanol i ddulliau rhai fel Elon Musk ac Uber a’u tebyg.

Dyna pam mae TrydaNi yn Gymdeithas Budd Cymunedol nid er elw. Nid elusen ydym ni, ac felly rydym ni’n gallu rhedeg fel busnes, ond fe fydd ein helw ni i gyd yn cael ei roi yn ei ôl i mewn ar gyfer gwella ein gwasanaeth a gwella’r amgylchiadau mewn cymunedau lleol.

Rydym ni’n falch o’n hetifeddiaeth. Daeth TrydaNi i fod pan ddaeth nifer o brosiectau mewn bod ar lawr gwlad at ei gilydd. Fe wnaethom ni sylweddoli y gallem ni fod yn fwy cydnerth gyda’n gilydd a bod â mwy o ddylanwad drwy sicrhau y gellid ailgreu modelau llwyddiannus o rannu ceir ledled Cymru.

Ac rydym ni’n uchelgeisiol iawn – yn y pen draw rydym ni’n awyddus i bob un o’r cerbydau gael eu gyrru gan drydan a gynhyrchir yng Nghymru gan brosiectau ym meddiant y gymuned, wrth i gost ynni glân (ynni’r haul yn arbennig) barhau i ostwng yn sylweddol. Mae’r batris yn ein cerbydau ni’n cynnig cyfleoedd cyffrous ar gyfer annibyniaeth ynni lleol, gan ddarparu cronfa effeithiol ar gyfer trydan a gynhyrchir yn adnewyddadwy y gellir ei ddefnyddio pan fo angen amdano.

Yn wahanol i Elon Musk ac Uber, nid oes biliynau o ddoleri gennym ni’n anffodus. Ond drwy ddod at ein gilydd mae cyfle gennym ni i adeiladu rhywbeth gwirioneddol gyffrous. Rydym ni’n awyddus i gael ein harwain gennych chi – ein haelodau ni – wrth i ni ddechrau adeiladu’r dyfodol. Ac felly, os gwelwch yn dda, strapiwch i mewn ac ymunwch â ni ar ein perwyl heddiw.