Cynnig Cymraeg

Cynnig Cymraeg

Mae TrydaNi yn sefydliad Cymreig ac rydym yn ymdrechu i roi pwyslais cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg yn ein hymgysylltiad cyhoeddus, yn ogystal â hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle. Credwn ei bod yn bwysig nad yw'r Gymraeg yn cael ei defnyddio dim ond ar gyfer cyfathrebu bob dydd ond hefyd ei pharchu am ei phwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol. Mae deall taith y iaith a'i dathlu fel iaith fyw yn rhan hanfodol o'n dull o ddysgu a defnyddio Cymraeg yn TrydaNi. Nid yw pob aelod o'n tîm yn rhugl yn Gymraeg ond mae gennym dîm amrywiol o bobl sy'n deall ac yn gwerthfawrogi'r iaith. Gwneir ein gorau i sicrhau bod pawb sydd am gyfathrebu yn Gymraeg yn cael eu cefnogi ac yn cael eu gwrando.

TrydaNi logo
Cymraeg
TrydaNi logo
TrydaNi logo
Cymraeg

Gohebiaeth Ysgrifenedig

Gohebiaeth Ysgrifenedig

Mae TrydaNi yn croesawu gohebiaeth ysgrifenedig yn Gymraeg a Saesneg. Bydd unrhyw gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn cael ei hateb yn Gymraeg cyn gynted â phosibl. Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gohebiaeth mewn unrhyw iaith yn cael ymateb prydlon.

Cyfathrebu Ffôn

Mae croeso i chi siarad Cymraeg neu Saesneg wrth gysylltu â ni dros y ffôn. Gan mai dim ond ychydig o aelodau o’r tîm sy’n siarad Cymraeg, ac mae rhai yn dysgu, ni allwn bob amser gynnig ateb Cymraeg (yn enwedig os yw’r galwad y tu allan i oriau swyddfa) ond byddwn bob amser yn gwrando ac yn gwneud ein gorau i drefnu ateb Cymraeg pan fo’n bosibl.

Cysylltiad wyneb yn wyneb a rhithiol

Cysylltiad wyneb yn wyneb a rhithiol

Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw un sy’n dymuno siarad â siaradwr Cymraeg yn gallu gwneud hynny, yn bersonol neu’n rhithiol. Efallai na allwn warantu hyn bob amser.

Cyfathrebu a chyhoeddiadau

Cyfathrebu a chyhoeddiadau

Bydd popeth a gyhoeddwn, gan gynnwys blogiau, erthyglau, a phostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol — yn ddwyieithog. Rydym yn eich annog i ryngweithio â ni ar gyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg neu Saesneg.

Cefnogi Cymraeg yn y gweithle

Cefnogi Cymraeg yn y gweithle

Rydym yn annog ac yn cefnogi gweithwyr sy’n dymuno dysgu Cymraeg ac yn helpu dysgwyr i wella eu sgiliau iaith. Mae gweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn annog ac yn cefnogi cydweithwyr sy’n dysgu’r iaith i ddefnyddio Cymraeg yn y gweithle.

Gwella’n barhaus

Gwella’n barhaus

Wrth i ni dyfu, byddwn yn adolygu a gwella ein Cynnig Cymraeg bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion ein cymuned a’n gweithwyr. Rydym yn croesawu ac yn gwrando ar unrhyw adborth gan ein aelodau.