Yn cyflwyno ein proses ymgeisio newydd ar gyfer clybiau ceir
2 December 2025
Ar draws Cymru, mae mwy o gymunedau yn archwilio clybiau ceir fel dewis arall ymarferol, fforddiadwy a chynaliadwy yn lle perchen ceir preifat.
Os ydych chi'n un o'r nifer gynyddol o bobl sy'n pendroni sut i ddod â Chlwb Ceir TrydaNi i'ch tref, mae ein proses ymgeisio newydd wedi'i chynllunio i'ch helpu.
Mae clwb ceir TrydaNi wedi'i adeiladu o amgylch syniad syml: mae aelodau lleol yn rhannu un neu fwy cerbyd trydan, wedi'u parcio a'u gwefru mewn man dynodedig — y Lleoliad Cartref.
Mae aelodau'n archebu'r cerbyd trydan drwy ap TrydaNi, ac mae ein tîm yn gofalu am y cerbydau, yr yswiriant, y trydan, a'r holl gostau gweithredol.
I gymunedau, mae'n cynnig opsiwn trafnidiaeth fforddiadwy heb faich perchnogaeth car—ac i Gymru, mae'n cefnogi system drafnidiaeth lanach a mwy cynaliadwy.
Er mwyn ei gwneud hi'n haws i gymunedau ddechrau, rydym wedi cyflwyno proses ymgeisio strwythuredig dan arweiniad "Cydlynydd Sefydlu" lleol. Dyma'r person sy'n cwblhau'r ffurflen gais ac yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt wrth i'r clwb gael ei sefydlu.
Yn aml, mae ymgeiswyr yn cynrychioli sefydliad “Partner Cymunedol” lleol—fel cyngor tref neu fenter gymdeithasol—ond mae croeso i unigolion wneud cais hefyd.
Mae'r ffurflen gais ar-lein (a'r nodiadau canllaw cysylltiedig) yn eich tywys trwy bopeth sydd ei angen arnom i asesu a fydd clwb yn hyfyw yn eich ardal: eich Lleoliad Cartref arfaethedig, tystiolaeth o ddiddordeb cymunedol, manteision cymdeithasol posibl. Gallwch hefyd ddweud wrthym am unrhyw ymgeiswyr cefnogol a allai ddod yn “Hyrwyddwyr Cymunedol” –aelodau sy'n helpu gyda thasgau syml fel glanhau, gwaith hyrwyddo, neu wiriadau cerbydau misol, ac yn derbyn credydau gyrru yn gyfnewid.
Mae'r rownd ymgeisio gyntaf yn cau 15 Ionawr 2026, gyda chymunedau llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn 4 Chwefror.
Bydd cerbydau'n cael eu defnyddio o 1 Mawrth.
(Mae'n debyg y bydd rowndiau ymgeisio pellach digwydd yn ddiweddarach, gyda dyddiadau i'w cadarnhau).
Os ydych chi'n barod i gymryd y cam nesaf, lawrlwythwch y ffurflen, archwiliwch y canllawiau, a chysylltwch â ni—rydym yma i'ch helpu i sefydlu clwb ceir TrydaNi yn eich cymuned.
