Ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg

Gan Tom Simone, Prif Swyddog Cymunedol, TrydaNi
Yn TrydaNi, rydym yn adeiladu gwasanaeth sy'n cryfhau cymunedau drwy ddarparu mynediad at drafnidiaeth gynaliadwy.
Ein cenhadaeth yw darparu rhannu ceir di-allyriadau sy'n fforddiadwy, yn gyfleus, ac wedi'i wreiddio lle mae pobl yn byw ac yn gweithio. Fel Cymdeithas Budd y Gymuned, mae'r iaith Gymraeg yn rhan annatod o'n cenhadaeth. Nid cyfieithu yn unig yw'r iaith – mae'n rhan o hunaniaeth, diwylliant a bywyd bob dydd llawer o'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.
Dyna pam rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gall siaradwyr Cymraeg ymgysylltu â TrydaNi yn eu hiaith, boed yn darllen ein gwefan, yn derbyn cyfathrebiadau gennym, neu'n archebu cerbyd.
Adeiladu gwasanaeth gwirioneddol ddwyieithog
Mae gan TrydaNi dîm o wyth aelod o staff ar draws Cymru, ac rydym yn falch o fod yn gymysgedd o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg.
Mae ein rhif ffôn gymorth yn cael ei hateb gan gwahanol aelodau staff, ac mae rhai ohonynt yn ddwyieithog.
Mae ein holl gynnwys cymorth ar-lein, allbwn digidol, a deunyddiau print yn ddwyieithog.
Dyma yw ein hamcanion:
Darparu gwybodaeth allweddol ar ein gwefan yn y Gymraeg a'r Saesneg
Cynnig cyfathrebiadau dwyieithog i aelodau
Sicrhau bod dogfennau a pholisïau pwysig yn ddwyieithog
Dylunio ein systemau fel y gellir cyflwyno cynnwys dwyieithog yn gyson
Wrth i TrydaNi dyfu a chlybiau ceir newydd gael eu lansio ledled Cymru, bydd sicrhau bod ein gwasanaeth yn gweithio'n ddi-dor yn y ddwy iaith yn parhau i fod yn flaenoriaeth graidd. Dysgwch fwy o fanylion am ein Cynnig Cymraeg fan hyn.
Gweithio gyda Chomisiynydd y Iaith Gymraeg
Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn, rydym wrthi'n gweithio gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i ddatblygu cynllun datblygu'r iaith Gymraeg ar gyfer TrydaNi.
Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i ymgorffori arfer gorau ledled y sefydliad — o gyfathrebu a phrofiad cwsmeriaid i brosesau mewnol a datblygu staff.
Drwy gydweithio’n agos â swyddfa’r Comisiynydd, rydym am sicrhau bod ein dull o ymdrin â’r iaith Gymraeg yn feddylgar, yn ymarferol, ac wedi’i adeiladu ar gyfer y tymor hir wrth i’r sefydliad dyfu.
Dysgu Cymraeg o fewn tîm TrydaNi
Mae ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg yn dechrau o fewn y sefydliad.
Mae rhai aelodau o dîm TrydaNi yn siaradwyr Cymraeg, tra bod eraill yn dysgu'r iaith fel rhan o'u datblygiad personol a phroffesiynol. Mae meithrin sgiliau iaith Gymraeg o fewn y tîm yn ein helpu i ddeall ein cymunedau yn well ac yn cryfhau ein gallu i ddarparu gwasanaeth gwirioneddol ddwyieithog.
Mae Tess Cartwright, Strategwr Cynnyrch ac Aelodau TrydaNi, wedi bod yn dysgu Cymraeg ochr yn ochr â'i gwaith yn datblygu ein systemau digidol.
Dywedodd: “Gan fy mod i’n byw mewn pentref Cymreig, mae dysgu’r iaith wedi fy helpu i gysylltu â fy nghymdogion yn eu mamiaith. Gallaf weld y gwerthfawrogiad am fy mharodrwydd i geisio siarad Cymraeg.
“Mae gan yr iaith Gymraeg strwythur ac arddull ddiddorol iawn sy’n rhoi cipolwg agosach i mi ar y tir a’r bobl. Rwy’n gwella bob wythnos a fy nod yw bod yn rhugl un diwrnod.
“Wrth dyfu i fyny yng Nghanada Ffrengig, rwy’n deall pwysigrwydd peidio â throi at Saesneg yn ddiofyn. Mae hanes trefedigaethol o wneud Saesneg yn iaith drech ac wrth geisio dysgu Cymraeg rwy’n teimlo ei fod yn fath o undod ac actifiaeth yn y byd modern.”
Mae Andrew Capel, Rheolwr Gweithrediadau TrydaNi, eisoes wedi dysgu Cymraeg ac yn ei defnyddio’n rheolaidd yn ei waith.
Dywedodd: “Mae gallu siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn y gwaith yn bwysig i mi oherwydd ei fod yn ei gwneud yn iaith fyw ac nid rhywbeth rydw i wedi'i ddysgu ar-lein neu mewn ystafell ddosbarth. Mae hefyd yn dangos i aelodau ein bod ni'n parchu ac yn gwerthfawrogi eu hiaith a'u diwylliant.”
Dewis eich iaith
Rydym am i aelodau dderbyn cyfathrebiadau gan TrydaNi yn yr iaith sy'n gweithio orau iddyn nhw.
Pan ymunwch â TrydaNi, gallwch ddewis eich iaith ar gyfer negeseuon e-bost a chyfathrebiadau eraill.
👉E-bost support@trydani.org i ddiweddaru eich dewis iaith.