Cyflwyniad i’n prisiau newydd
8 July 2025
Cyflwyniad i’n prisiau newydd
Rydym ni’n falch o gyhoeddi gostyngiad yn ein prisiau ar gyfer defnyddio clybiau ceir TrydaNi heddiw.
Rhan allweddol o’n perwyl ni yw darparu gwasanaeth fforddiadwy. Er bod ein prisiau blaenorol yn gystadleuol o gymharu â llogi ceir confensiynol, roedd yr adborth oddi wrth ein haelodau yn eglur: mae angen i ddefnyddio clwb ceir fod yn rhatach ar gyfer helpu i ysgogi oddi wrth ddefnydd o gerbydau a berchnogir yn breifat o ddydd i ddydd.
Mae’r prisiau newydd fel a ganlyn:
£2/awr (£3 yn flaenorol), wedi ei gapio ar £30
16c/milltir ar gyfer y 100 milltir cyntaf
Dim ffi am archebu nawr!
Y ffordd rwyddaf o ddeall sut mae’r prisiau newydd yn gweithio yn ymarferol yw trwy ddefnyddio ein cyfrifwr prisiau newydd.
Ar gyfer penderfynu ar y prisiau newydd fe wnaethom ni siarad gyda llawer o’n haelodau (diolch i chi i gyd a gymerodd rhan) ac fe wnaethom ni gynnal ymchwil mwy eang hefyd gyda hapsampl o 750 o bobl i ddeall agwedd y cyhoedd tuag at glybiau ceir. Fe wnaethom ni ystyried newid strwythur y prisiau i gyfradd unffurf bob awr, a gofyn i bobl awgrymu’r hyn yr oedden nhw’n ei gredu a oedd yn bris teg am siwrnai nodweddiadol o ddwy awr.
Fe wnaethom ni ganfod y byddai gan oddeutu 1 ym mhob 5 o bobl yng Nghymru ddiddordeb mewn defnyddio cerbyd a rennir, ac y byddai’n well gan fwyafrif pendant i ni fod yn parhau gyda strwythur mwy hyblyg sy’n cyfuno ffioedd bob awr ac yn ôl y filltir (fel ei bod hi’n dal i fod yn fforddiadwy i adael y car wedi ei barcio am gyfnodau hwy o amser).
Am ein bod ni’n fudiad nid-er-elw, mae unrhyw refeniw ychwanegol yr ydym ni’n ei gynhyrchu yn gallu cael ei ailfuddsoddi ar gyfer gwella ein gwasanaeth. Rydym ni’n falch ein bod ni wedi gallu gwrando ar adborth a gostwng prisiau er mwyn i ni fod â sylfaen gadarn ar gyfer twf i’r dyfodol.
Rydym ni’n symud ymlaen nawr at wella agweddau eraill ar ein gwasanaeth, yn enwedig gan weithio gyda’n partner technoleg gydweithredol Ewropeaidd i gyflawni gwelliannau i’r broses o ymuno ac archebu. Rydym ni’n symud ymlaen hefyd â chynlluniau i ehangu ein rhwydwaith i drefi eraill ledled Cymru.
Fel pob amser fe fyddem ni wrth ein boddau o glywed oddi wrthych chi os oes gennych chi unrhyw sylwadau ac awgrymiadau.