TrydaNi logo
Cymraeg
TrydaNi logo
Cymraeg
TrydaNi logo

5 Top tip ar gyfer defnyddio ceir TrydaNi

Rydyn ni wedi cyrraedd 2026, mae nifer mawr o bobl wedi ymuno â TrydaNi, ac mae ein ceir yn cael mwy o ddefnydd nag erioed o’r blaen! Dyma 5 awgrym i wneud eich taith mor esmwyth a di-straen â phosibl:

1. Defnyddiwch ein cynnwys cymorth: Mae gennym gasgliad llawn o wybodaeth a fideos byr i'ch helpu i ddeall gwasanaeth TrydaNi. Mae fideo hyfforddi ar gyfer pob model o gar, i gyd o dan ddwy funud, sy'n dangos sut i ddechrau gyrru’n syth.
Gan ein bod ni'n wasanaeth gwledig yn bennaf, mae’n bosib na fydd gennych signal ffôn wrth y car. Os gwyliwch y fideo o flaen llaw, bydd yn rhoi heddwch meddwl a hyder i chi ar eich taith.

2. Archebwch y car am hirach na sydd angen arnoch: Nid ydym yn cosbi aelodau am ddychwelyd y car yn gynnar. Ond mi ydym yn cosbi dychweliadau hwyr.

Rydym yn ymdrechu i fod yn wasanaeth dibynadwy, ac mae hynny'n dibynnu ar aelodau'n gallu cael mynediad i'r car yn eu hamser archebu. Rydym wedi adeiladu byffer o 30 munud rhwng archebion i ganiatáu amser gwefru.

Mae archebu'r car am ychydig yn hirach na’r hyn sydd ei angen arnoch yn helpu i osgoi problemau i'r aelod nesaf ac yn golygu y gallant ymlacio, gan wybod y bydd y car yn barod iddynt.

3. Cymerwch yr allwedd gyda chi allan o’r car: 

Gellir cloi a datgloi'r car trwy'r ap ar ddechrau a diwedd eich archeb. Yn ystod eich archeb, mae'n well defnyddio'r allwedd sydd wedi’i storio yn y car — er enghraifft, os ydych yn mynd ar drip siopa.

Ni allwn warantu signal ffôn cryf ym mhobman, ac nid ydym eisiau chi cael eich cloi allan o’r car!


4. Lawrlwythwch Zapmap i weld mannau gwefru ar eich taith:
Rydym yn codi 16p yr milltir am y 100 milltir gyntaf. Os ydych chi'n mynd ar daith hirach, efallai y bydd angen i chi gwefru'r car a thalu gyda cherdyn debyd.
Mae llawer o wahanol fathau o bwyntiau gwefru gyda gwahanol gyflymderau. Os lawrlwythwch Zap-Map — neu o leiaf ei wirio ar gyfrifiadur cyn teithio — gallwch weld lle i stopio a faint of amser cymerith i wefru’r car. Mae'r ap hefyd yn rhoi gwybodaeth am os yw gwefrydd ar gael. 

A chofiwch: peidiwch â gadael i'r batri redeg yn hollol fflat. Os mae hyn yn digwydd bydd angen galw gwasanaeth torri lawr.

 Mwy o wybodaeth am bwyntiau gwefru fan hyn.


5. Defnyddiwch ein cyfrifiannell brisiau am wybodaeth am gost eich taith: 

Mae'n costio £2/awr (gyda chap dyddiol o £30) a 16p y filltir (cap o 100 milltir). Gall y fathemateg fod yn anodd ei weithio allan ar y tro — felly creon ni offeryn syml i'ch helpu i amcangyfrif cost eich taith.

Defnyddiwch ef cyn eich taith i ddarganfod faint o gredydau sydd eu hangen arnoch.


Wrth gwrs, rydym yma i'ch cefnogi ar y 0300 373 5500 llinell ffôn rhwng 8am–10pm os oes angen help arnoch.

Rydym gyd gyda’n gilydd — a'r  fwy esmwyth y mae pob taith, y gorau byth bydd y clybiau ceir.