TrydaNi logo
Cymraeg
TrydaNi logo
Cymraeg
TrydaNi logo

Gwefr llawn ar gyfer y gwanwyn

Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd o'r diwedd!

Yn ôl ym mis Ionawr fe wnaethon ni rhannu rhywfaint o ddata ynglŷn tyfiant TrydaNi yn 2025.

 Nawr, dri mis i mewn i 2026, rydym yn falch o adrodd am gynnydd gwych yn ddefnydd ein cerbydau.

Yn ogystal, mae gennym fideo newydd cyffrous i'w rannu gyda chi. 

Nid yn unig hynny, ond rydym yn lansio pedwar clwb newydd hefyd!

Clybiau Newydd

Pan agorodd geisiadau ar gyfer clybiau newydd ym mis Rhagfyr cawsom ddeg cymuned o bob cwr o Gymru yn gwneud cais. Aethom ymlaen i ddewis pedwar lleoliad yn seiliedig ar feini prawf sgorio a greom i roi'r cyfle gorau i glybiau lwyddo.

(Rhol Dryms os gwelwch yn dda!) Mis nesaf a byddwn yn lansio clybiau newydd yn:

  • Abertawe

  • Y Fenni

  • Penygroes

  • Bangor

Mae hyn yn dod â chyfanswm o glybiau i 13, gyda 19 o gerbydau.

Mae ein twf yn digwydd yn erbyn cefndir o fyd sy'n newid yn gyflym. Mae cost tanwydd yn parhau i godi, ac i lawer o gartrefi, mae rhedeg sawl car yn dod yn anoddach i'w gyfiawnhau.

Dydyn ni ddim yn smalio bod gennym ni'r holl atebion i'r heriau y mae ein system drafnidiaeth yn eu hwynebu —ond rydyn ni yma i gynnig dewis arall ymarferol a fforddiadwy.

I deuluoedd neu aelwydydd lle dim ond yn achlysurol y defnyddir ail gar, gall TrydaNi fod yn ffordd o dorri costau heb golli hyblygrwydd ac mae'n golygu llai o geir yn segur.

Fideo Newydd

Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar egluro beth yw TrydaNi mewn gwirionedd. Rydyn ni'n gwybod beth rydyn ni ddim; nid dim ond cwmni llogi ceir arall na chorfforaeth ddi-wyneb ydym ni, ond nid dim ond clwb ceir lleol ydym ni chwaith.

Cofiwch unwaith y byddwch wedi ymuno â TrydaNI, gallwch ddefnyddio unrhyw gar yn ein rhwydwaith sy'n tyfu.

Rydyn ni wedi gwneud fideo i ddangos yn union sut beth yw bod yn rhan o gymuned TrydaNi. Gobeithiwn eich bod chi'n ei hoffi! Ac os ydych chi, plîs rhannwch!

Diweddariad y tabl arweinwyr

Mawrth oedd ein defnydd uchaf hyd yma, gyda'n cerbydau'n cyrraedd defnydd o 22% ar draws y rhwydwaith — ein mis cryfaf hyd yn hyn ac nid yw ymhell o'n targed hirdymor o 25%. Mae hynny'n golygu mwy o deithiau, mwy o filltiroedd a rennir, a mwy o dystiolaeth y gall ein model uchelgeisiol weithio.

A nawr am y foment rydych chi i gyd wedi bod yn aros amdan! Dyma tabl arweinwyr y clwb ar gyfer tri mis cyntaf 2026:

1 - Llanidloes (45 diwrnod wedi'i archebu)

2 - Machynlleth (40 diwrnod wedi'i archebu)

3 - Bethesda (38 diwrnod wedi'u harchebu)

Hyd yn oed y tu allan i'r tri uchaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol. Cyrhaeddodd Aberystwyth, er enghraifft, 36 diwrnod—i fyny'n sydyn o'i gymharu â 25 pan gynhyrchwyd y tabl arweinwyr ddiwethaf—a byddai wedi dod yn ail pe baem yn mesur milltiroedd a yrrwyd yn hytrach nag amser archebu.

Da iawn bawb felly, a daliwch ati gyda'r gwaith da!